Plaid Cymru - Cynghorwyr Sir Caerfyrddin
Ymgyrchoedd a Pholisiau
English

SYMUD SIR GÂR YMLAEN
Maniffesto Plaid Cymru 2008. Etholiadau i Gyngor Sir Caerfyrddin

Peter Hughes-Griffiths (Arweinydd), Tyssul Evans (Is-Gadeirydd), a John Dixon, (Ysgrifennydd y Pwyllgor Sirol) adeg lansio maniffesto grwp Cynghorwyd Plaid, Sir Gaerfyrddin.
Lansio Maniffesto Plaid Cymru
Mae Cynghorwyr Plaid Cymru’n gweithio’n gydwybodol iawn yn eu cymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin. Ry ni am wneud mwy.  Mae’r Maniffesto hwn yn cynnig agenda gyrraeddiadwy, blaengar ac arloesol i’n cymunedau yn ein sir.  Dyma raglen a fydd yn sicrhau yr hyn sydd ei wir angen  er mwyn creu cymunedau  cryfach, gwyrddach a mwy hyfyw.

DEMOCRATIAETH

Byddwn yn adolygu strwythur democratiaeth y Cyngor. Dylai holl weithgaredd y Cyngor fod mor dryloyw a phosibl. Ein dewis gorau ni fyddai i bob prif blaid wleidyddol gael ei chynrychioli ym mhob strwythur sy’n gwneud penderfyniadau ar y Cyngor. Ni ddigwyddodd hyn yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf gan i Gyngor Sir Caerfyrddin gael ei  reoli’n llwyr gan y Grwpiau Anibynnol a Llafur. Plaid Cymru yn unig all gynnig dewis gwahanol i’r gyfundrefn Annibynnol/Llafur bresennol i etholwyr Sir Gaerfyrddin.

Rhai o ymgeiswyr ardal Llanelli adeg lansio maniffesto Grwp Plaid Cymru, Sir Gaerfyrddin yn Llanelli.
Lansio Maniffesto Plaid Cymru
CORFFORAETHOL

Tra’n cydnabod bod lle i brosiectau mawrion, ni fyddwn yn caniatau i gynlluniau felly dynnu ein sylw oddi ar ein hamcanion allweddol o drefnu bod gwasanaethau ‘o ddydd i ddydd’ o’r safon gorau posibl ar gael i bobl Sir Gar. Rhaid i’r gwasanaeth o’r safon gorau gael ei gynnig gan y Cyngor gan leihau’r arferiad o gyflogi ‘asiantaethau o’r tu allan’ i gyflawni llawer o’n gwasanaethau.

Credwn y dylsai pob adran o’r Cyngor fabwysiadu strategaeth newydd i leihau’r ddibyniaeth ar ddefnyddio ‘ymgynghorwyr allanol’ a datblygu’r dull o ymgymryd a phrosiectau ‘yn fewnol’ gan arwain at arbed llawer o arian. Mae angen adolygu effeithiolrwydd y Cynlluniau Rhwydwaith Cymunedol yn eu ffurf bresennol gyda’r posibilrwydd o sianelu mwy o arian i ‘brosiectau lleol.

ADDYSG

Tra bod Plaid Cymru’n croesawi moderneiddio, mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn erbyn gwanhau ein cymunedau trwy gau ysgolion gwledig. Ry ni’n cefnogi’r agweddau positif sydd yn y Cynllun Moderneiddio Addysg. Er hynny, byddem yn rhoi ‘moritoriwm’ ar y polisi presennol o gau ysgolion gwledig a sefydlu ‘Corff Adolygu’. Byddai hwn yn edrych ar bob opsiwn posibl mewn ymgynghoriad gyda staff, athrawon, llywodraethwyr, rhieni a’r cymunedau’n gyffredinol cyn derbyn unrhyw gynllun i gau ysgolion yn y dyfodol.

Mewn ymgynghoriad gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru byddai Plaid Cymru hefyd yn adolygu pob agwedd o drafnidiaeth ysgol o fewn y trefi a’r ardaloedd gwledig yn seiliedig ar ddiogelwch gan anelu tuag at leihau’r defnydd o geir preifat a helpu i ostwng creu CO2.  Nod Plaid Cymru yw sicrhau na fyddai mwy na 20 disgybl mewn dosbarthiadau o dan 8 oed a dim mwy na 25 disgybl mewn dosbarthiadau iau ac uwchradd.

Byddem yn cefnogi  cryfhau strategaeth addysg arbennig o fewn y sir.

Byddem yn mabwysiadu polisi’r Iaith Gymraeg fel yr amlinellwyd gan y Cynghorydd Gwyn Hopkins yn ei ddogfen ‘Iaith Pawb.’  Datblygu’r polisi ieithyddol mewn Ysgolion Categori A ac Ysgolion Categori A/B (fel y cyflawnwyd eisioes yn Ysgol Ffwrnes, Llanelli)  gan roi sylw arbennig i ardal Llanelli yn y sector 4-11 oed gan sicrhau safonau priodol yn y ddwy iaith a meithrin agweddau positif tuag at y nod o Gymru ddwy-ieithog yn ol y ddogfen ‘Iaith Pawb’ a osodwyd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid rhoi ystyriaeth bellach i sefydlu Ysgolion penodedig cyfrwng Cymraeg yn y sector gynradd ac uwchradd mewn rhai rhannau o Sir Gaerfyrddin. Ar lefel ysgolion uwchradd dylid gweithredu ‘Polisi Continiwm Iaith Gymraeg’ yr awdurdod a chynyddu’r  cyfle i ddysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg ac i farchnata hynny fel dewis addysgol cadarnhaol i ddisgyblion a rhieni.

ADFYWIO CYMUNEDAU A DATBLYGIAD ECONOMAIDD

  • Annog a chefnogi creu busnesau yn yr ardaloedd gwledig a threfol o fewn y sir a thrwy hynny’n creu mwy o gyfleoedd i bobl leol.
  • Cefnogi busnesau bach sy’n bodoli yn y wlad a’r dref a’u helpu i ddatblygu ac i ymestyn ymhellach.
  • Symleiddio gwasanaethau’r Cyngor sy’n cefnogi ac yn cynghori busnesau.
  • Annog pob sector o fewn y Sir i brynu mwy o gynnyrch  a nwyddau cyffredinol yn lleol.
  • Sicrhau bod y Cyngor ei hun yn prynu cymaint a phosibl o’i anghenion gan fusnesau o fewn y sir.
  • Sicrhau fod busnesau o fewn y sir yn cael eu hannog i dendro ac i gyflenwi anghenion y Cyngor.
  • Creu’r cyfleoedd i’n pobl ifainc i adeiladu sgiliau trwy gynnig prentisiaeth o fewn ein gweithlu.
  • Cefnogi busnesau bychain e.g. cyswllt-amaeth a.y.b. sydd am arall gyfeirio tuag at dwristiaeth a.y.b.
  • Sicrhau Grantiau Ewropeaidd i alluogi’r Cyngor i helpu’n busnesau presennol a’n busnesau newydd i ddatblygu ymhellach.
  • Annog busnesau i symud i mewn i’r ardaloedd er sicrhau gwaith i’r bobl leol.
  • Ail ystyried y rhenti a’r trethi ar fusnesau yn y sir sydd ar hyn o bryd yn anghyfiawn.

CYNLLUNIO

  • Adolygu polisiau’r cyngor er mwyn gwneud yn siwr y gallwn gynnal a datblygu  ein cymunedau. Datblygu polisi ‘angen lleol’ cryfach o fewn cynllunio. Byddai hyn yn gefnogol i bobl ifanc aros yn eu cymunedau lleol gan helpu i sicrhau dyfodol siopau gwledig, ysgolion, swyddfeydd post, modurdai a busnesau eraill, a bod polisiau cynllunio ddim yn cael yr effaith o’i gwneud hi’n anoddach i bobl gael cartrefi yn eu cymunedau eu hunain.
  • Rheoli datblygu mwy o arch-farchnadoedd ‘tu allan i drefi’ a thrwy hynny yn sicrhau dyfodol pob math o fusnesau o fewn y trefi yn sir Gaerfyrddin.
  • Sicrhau mwy o fudd ariannol i’n trefi a’n pentrefi wrth adeiladu tai ac adeiladau masnachol o dan  gytundebau Adran 106 gyda’r datblygwr, a thrwy hynny’n helpu’r cymunedau i gael mwy o adnoddau hamdden ac adnoddau eraill. Bydd rhan bwysig gan y Cynghorydd Sir lleol a/neu’r Cyngor Cymuned yn hyn o beth. (Mae Adran 106 yn cyfeirio at ddatblygu mwy na 10 eiddo, a lle bydd rhaid cyfrannu arian tuag at welliannau o fewn y gymuned y maent yn gwneud cais cynllunio i ddatblygu ynddi. Mae hyn yn amod yn y caniatad cynllunio a roddir.

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Byddai Plaid Cymru yn:

  • datblygu mhellach y cynlluniau gofal personol unigol er hywyddo byw’n annibynnol.
  • sicrhau dyfodol sicr i Ganolfannau Dydd gan sefydlu mwy o Glybiau Cinio i wasanaethu gofynion lleol.
  • hyrwyddo mwy o welyau trawsnewid mewn Cartrefi Gofal er mwyn lleihau’r ‘blocio gwelyau’ yn yr ysbytai ac sy’n gohirio trosglwyddo’r gofal.
  • hyrwyddo cyfraniad y gwirfoddolwyr wrth ddatblygu a chynnal y gofal yn y gymuned.
    Mae Plaid Cymru’n gwrthwynebu mewn egwyddor y syniad o ‘breifateiddio’, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol.

CYMUNEDAU DIOGELACH

Dymuna Plaid Cymru gryfhau rhan y Cyngor Sir mewn hyrwyddo cymunedau  diogelach ar hyd a lled sir Gaerfyrddin trwy:

  • gynnig cefnogaeth i gyflwyno mwy o Heddlu Cymunedol a Wardeniaid Diogelwch Lleol.
  • sicrhau mwy o arian o ffynnonellau’r llywodraeth ar gyfer camerau CCTV gan ofalu bod cyllid ar gael i fonitro rheini ddydd a nos.
  • sicrhau a chefnogi safle’r gweithwyr ieuenctid cymunedol lleol fel y gallant ddatblygu prosiectau hir dymor o fewn rhwydwaith o glybiau ieuenctid, a chynnig amrywiaeth o adnoddau deniadol ar gyfer ein pobl ifainc

TAI

Mae gan bawb yr hawl i gartref, fel perchenog, rhan berchennog neu denant. Mae Plaid Cymru yn credu y dylai darparu tai fforddiadwy o safon uchel fod yn un o brif amcanion Cyngor Sir Gar. Er mwyn adeiladu cymunedau cynaliadwy a byw, mae’n rhaid i ni sicrhau bod gan bobl leol fynediad i dai yn eu hardaloedd eu hunain. Gall tai chwarae rhan annatod mewn amcanion polisi ehangach megis adfywio economaidd, iaith a diwylliant ac iechyd a lles.

Prinder tai fforddiadwy yw un o’r sialensau mwyaf sy’n wynebu Sir Gaerfyrddin, lle mae chwyddiant mewn prisiau tai yn prisio pobl leol allan o’r farchnad. Ar hyn o bryd mae 6,000 o bobl ar y rhestr aros am dai yn Sir Gar.  Cred Plaid Cymru na all datblygwyr yn unig, sy’n gweithio dan bwysau masnachol, fynd i’r afael ag anghenion Sir Gaerfyrddin.
Mae Plaid Cymru yn ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i:

  • gwrdd ag anghenion tai yn lleol
  • wella mynediad i dai
  • gynyddu cyflenwad tai fforddadwy
  • sicrhau tai o ansawdd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Byddwn yn gwireddu’r sialensau hyn drwy:

  • ymgyrchu i gadw stoc y Cyngor o dai cymdeithasol ac yn ymchwilio i ffyrdd o gynyddu’r ddarpariaeth o dai cymdeithasol
  • ddefnyddio rheoliadau cynllunio newydd i gynyddu’r nifer o dai fforddiadwy ym mhob datblygiad, gan gynnwys 100% o ddatblygiadau tai fforddiadwy mewn ardaloedd lle mae’r galw mwyaf am dai,
  • annog gwerthu tai gwag
  • gefnogi polisi Llywodraeth Cymru i atal dros dro yr hawl i brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae’r galw am dai fwyaf
  • defnyddio’r arweiniad i gynllunio adolygedig i greu asesiadau o’r ‘Effaith Ieithyddol’ mewn ardaloedd sydd a gwasgfa am dai
  • reoli trawsnewid tai preswyl llawn amser i mewn i ail gartrefi
  • ryddhau tir dan berchnogaeth gyhoeddus ar gyfer datblygu tai fforddiadwy a phlotiau adeiladu’ch hun
  • gefnogi datblygu Ymddiuriedolaeth Tir Cymunedol
  • gefnogi Cynlluniau Cymorth Prynu mewn partneriaeth gyda Chymdeithasau Tai Lleol mewn Ardaloedd Gwledig i gynorthwyo teuluoedd
  • wella cartrefi trwy Gynlluniau Bondiau Ecwiti.

YR AMGYLCHEDD

Rhaid i Sir Gaerfyrddin chwarae ei rhan yn yr ymdrech fyd eang i achub ein planed. Byddai cynghorwyr Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gymryd camau tuag at wneud ein sir yn lanach a gwyrddach:

  • Sicrhau cyd-gysylltu ar draws yr awdurdod trwy ymdrechu i gynyddu cyflymdra’r newid.
  • Byddwn yn annog datblygiadau cynhyrchu ynni lleol fel ‘micro generation’ fel ffordd radical o leihau ein print traed carbon.
  • Rhoi’r hawl i gymunedau lleol i chwarae eu rhan i atal newid yn yr hinsawdd a gostwng pris tanwydd i frodorion trwy sefydlu Fforymau Lleol a Grwpiau Creu Timau Gwyrdd i gynghori perchnogion tai.
    Hyrwyddo ac ehangu cynlluniau ailgylchu gwastraff a sicrhau bod ailgylchu’n rhwyddach ac yn  gyfleus i bob deilydd.
  • Gwneud adeiladau’r Awdurdod Lleol yn fwy cyfeillgar yn amgylcheddol e.e Paneli Solar ac adnewyddu’r hen fylbiau golau erbyn 2012.
  • Hyrwyddo dulliau gwahanol o deithio gan anelu at greu llai o draffig trwy’r defnydd o fwy o drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beicio a ffyrdd gwyrddach o deithio.
  • Hyrwyddo mynediad gwell i’r anabl ar gyfer bysiau, adeiladau a mannau cyhoeddus eraill gan eu hadolygu’n gyson.
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill, cyrff ac asiantaethau tuag at wella safon yr amgylchedd a’n cymunedau drwy’r sir yn gyffredinol.
  • Hyrwyddo’r defnydd o nwyddau Masnach Deg a chefnogi’r ymgyrch i gael statws Sir Fasnech Deg i Sir Gaerfyrddin.

GWASANAETHAU IEUENCTID

  • Creu ymwybyddiaeth o’r holl gyfleoedd sydd ar gael ar draws y sir gan annog ein pobl ifainc i aros a gweithio yn y sir.
  • Datblygu cynlluniau prentisiaeth newydd ar gyfer pobl ifainc.
  • Cynnal ‘Adolygiad Trylwyr o’r Gwasanaethau Ieuenctid yn y Sir’ ac yna gosod strategaeth yn ei lle ar gyfer rhwydwaith o Ganolfannau Ieuenctid mewn adeiladau addas o fewn y cymunedau ar draws y sir. (Gwneir hyn ochr yn ochr a’r ‘Comisiwn Cymunedol’)
  • Byddai Plaid Cymru’n sicrhau y byddai swm o arian ar gael ar gyfer Mudiadau Ieuenctid Clybiau Ffermwyr Ifainc Sir Gaerfyrddin ac Urdd Gobaith Cymru Sir Gaerfyrddin i gyflogi Swyddog Datblygu llawn amser. (Mae’r mwyafrif o siroiedd gwledig Cymru eisioes wedi mabwysiadu’r polisi hwn.

HAMDDEN A SIR IACHACH

  • Sicrhau fod mwy a mwy o’r adnoddau sydd nawr ar gael mewn mannau fel ysgolion ar gael ar gyfer cymunedau yn ystod oriau’r hwyr a gwyliau ysgol, a hynny o dan oruchwyliaeth gadarn, a datblygu rhwydwaith o raglenni hamdden deniadol. Mae cydweithio effeithiol mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Awdurdod Lleol o’r pwys mwyaf. Bydd hyn yn cael cryn flaenoriaeth gan Blaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin.
  • Datblygu mwy o gynlluniau i hyrwyddo byw yn iach a chadw’n heini.

ADFYWIO CYMUNEDAU

Bydd Plaid Cymru’n sefydlu ‘Comisiwn Ein Cymynedau’ i ymchwilio mewn dyfnder i bob agwedd o fywyd cymunedol yn Sir Gaerfyrddin gan roi pwyslais arbennig ar ein hardaloedd gwledig. Bydd gofyn i’r comisiwn gyflwyno adroddiad manwl a fydd yn rhestri cryfderau a gwendidau  ein cymunedau yn Sir Gaerfyrddin, ynghyd a  chyflwyno cynlluniau cadarnhaol ar sut i wella a datblygu ein cymunedau, ac yn enwedig ‘bywyd cymunedol’ trwy’r sir yn gyfan.

YR IAITH GYMRAEG A’N DIWYLLIANT

  • Hyrwyddo o fewn y sir y weledigaeth fel a’i cyflwynwyd yn y ddogfen ‘Cymru’n Un’ a ‘Iaith Pawb’ Llywodraeth  Cynulliad Cymru.
  • Bydd rhan allweddol gan ‘Mentrau Iaith’ mewn hyrwyddo a  throsglwyddo’r polisiau gyda chefnogaeth lawn Plaid Cymru.
  • Byddai cefnogaeth bellach i staff ac aelodau o’r Cyngor Sir i ehangu eu sgiliau dwyieithog trwy ddilyn y cynlluniau sy’n bodoli er hyrwyddo a datblygu cyfarfodydd  a seminarau ar sail ethos ddwy ieithog y Cyngor.

SYMUD SIR GÂR YMLAEN GYDA PHLAID CYMRU

Sbwriel heb ei gasglu yn Llanelli

Aelod Cynulliad Helen Mary Jones yn ymgyrchu gyda gofalwyr cartref yn erbyn ymgais gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i breifateiddio'r gwasanaeth

Ymgyrchwyr yn erbyn cau Cartref Annedd yn Llanybydder.

Dyfrig Thomas - un o Ymgeiswyr Ward y Bigyn - gyda Helen Mary Jones tu allan i hen Siop M&S sydd wedi symud allan o ganol tref Llanelli i Barc Trostre a thu allan i siop esgudiau Stead And Simpson ym mhrif groesffordd ardal siopa Llanelli sydd yn cau.

© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr - Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA