Plaid Cymru - Cynghorwyr Sir Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
English

Sir GaerfyrddinMae Sir Gaerfyrddin wedi'i lleoli yn Ne Orllewin Cymru, ac yn un o 13 Sir hanesyddol Cymru. Mae'r sir yn ffinio Ceredigion i'r Gogledd, Powys a Gorllewin Morgannwg i'r Dwyrain a Sir Benfro i'r Gorllewin. Y prif drefi yw Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman yn ogystal a Porth tywyn, Cydweli, llandeilo, Castell Newydd Emlyn, Llanymddyfri, Sancler, Hendygwyn-ar-daf a Phentywyn. Mae ganddi boblogaeth o tua 178,000, ac er mai yn nhref Caerfyrddin y mae'r ganolfan weinyddol oherwydd ei leoliad ganolog, y tref mwyaf poblog yw Llanelli.

Yn sir Gaerfyrddin y mae'r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg trwy Gymru, ac yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2001 mae 63.6% o drigiolion y Sir yn gallu deall, siarad, darllen a/neu ysgrifennu yn y Gymraeg, a tua 55% yn gwbwl rhugl. Y prif afonydd yn y sir yw'r Tywi, Y Gwendraeth Fawr ac Afon Llwchwr. Y prif ddiwydiannau yw Amaethyddiaeth, Coedwigaeth, Pysgota a Thwristiaeth, ac mae arfordir y de yn cynnwys nifer o bentrefi pysgota bychain. Mae'r tirwedd ar y cyfan yn uwchdirol neu'n fynyddig. Mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du yn ymestyn i ddwyrain y Sir, a mynyddoedd y Cambrian i'r gogledd.

Fe ddaeth bodolaeth Sir Gaerfyrddin fel Sir Weinyddol yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1888. Ym 1974 diddymwyd trefn weinyddol Sir Gaerfyrddin, ac newidiwyd Sir Gaerfyrddin i fod yn 3 ardal o'r enw Caerfyrddin, Dinefwr a Llanelli oddi fewn i Sir newydd Dyfed. Ym 1996 diddymwyd Dyfed fel Sir Weinyddol, ac unodd y 3 ardal unwaith eto i ffurfio Awdurdod Unedol Cyngor Sir Caerfyrddin a oedd yn cadw'r un ffiniau a'r Sir Gaerfyrddin wreiddiol.

Mwy o wybodaeth i ddilyn...

© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr - Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA