|
Newyddion |
Galw am gydweithrediad rhwng y pleidiau – 02/05/08Yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir, Plaid Cymru yw’r grwp mwyaf ar y Cyngor ac maent yn galw ar y pleidiau i gyd-weithio er lles y sir. Dywedodd arweinydd grwp y Blaid y Cyngh. Peter Hughes Griffiths: "Yn ein maniffesto ar gyfer yr etholiad hwn fe ddywedon ni ein bod am ddemocrateiddio’r Cyngor, gan sicrhau fod llais i bob cynghorydd o bob plaid. Mae’r system cabinet sy’n cynnwys aelodau o rai pleidiau’n unig, ac sy’n gwneud penderfyniadau heb fewnbwn gan gynghorwyr eraill, yn wallus ac annheg." "Bydd parhau â’r glymblaid rhwng y grwp Annibynnol a’r Blaid Lafur, gan gau allan Plaid Cymru, y grwp mwyaf ar y Cyngor, yn golygu gwrthod llais mwyafrif o boblogaeth y sir." "Galwn am sefydlu bwrdd o’r holl bleidiau i reoli’r sir, a galwn ar y pleidiau eraill i gydnabod canlyniad yr etholiad a gweithio gyda ni i gyflawni’r nod hwnnw." |
|
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr
- Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors |
ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA