Plaid Cymru - Cynghorwyr Sir Caerfyrddin
Newyddion
English

Llythyr Agored at ymgeiswyr Annibynnol – 27/04/08

Annwyl Ymgeisydd Annibynnol

Cyfeiriwn at yr hysbyseb a gyhoeddwyd yn y Carmarthen Journal a’r Llanelli Star yr wythnos hon ar ran yr ymgeiswyr “annibynnol”. Mae’n eglur fod yr hysbyseb yn ddeunydd etholiadol, ac y dylai ddangos mewn lle amlwg pwy sydd wedi ei hyrwyddo, ac ar ran pwy. Mae hefyd yn amlwg nad yw’r hysbyseb hwn yn cydymffurfio gyda’r gofynion. Mae peidio cydymffurfio yn drosedd o dan y ddeddfwriaeth etholiadol, a all ddenu cosb o £5000 i bob person sy’n ymwneud â’r drosedd. Rydym yn bwriadu tynnu sylw’r heddlu at y mater hwn er mwyn cydfynd â’r canllawiau i ymgeiswyr a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol (paragraff 3.39), a gofyn iddynt gynnal ymchwiliad a all arwain at erlyn pob ymgeisydd sydd yn gyfrifol am yr hysbyseb hwn.

Credwn hefyd fod y cyfeiriad at AC Plaid Cymru yn yr hysbyseb yn enllibus a bwriadwn ofyn i’n cyfreithwyr fwrw golwg drosto i’w ystyried.

Efallai y byddech yn barod i gadarnhau neu nacau os ydych yn rhan o’r grwp sydd tu ôl i’r hysbyseb, er mwyn i ni fod yn siwr fod ein cwyn yn cyfeirio at y bobl iawn.

Hyderwn y byddwch yn ymateb i’r ohebiaeth hon mor fuan a phosib; ac os ydych yn rhan o’r grwp sy’n gyfrifol am yr hysbyseb, hyderwn y byddwch yn gallu dweud wrthym at ba AC y Blaid y mae’r hysbyseb yn cyfeirio, ac ar ba sail y dywedwch ei fod ef/hi “o blaid tynnu ymaith y ddarpariaeth a roddir gan y Cyngor Sir i blant anghenus Sir Gaerfyrddin.” Os na allwch gefnogi’r honiad hwn yn syth disgwyliwn ymddiheuriad llawn cyhoeddus mewn digon o bryd cyn yr etholiad ddydd Iau nesaf.

Yn gywir,

Dyfrig Thomas

Swyddog Cyfathrebu

Dros ac ar ran Grwp Plaid Cymru o Gynghoprwyr Sir Gaerfyrddin
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr - Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA