|
Newyddion |
Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn dangos y ffordd gyda nifer o ymgeiswyr ifanc – 21/04/08Croesawodd arweinydd y Blaid ar Gyngor Sir Caerfyrddin, Peter Hughes Griffiths, y nifer fawr o ymgeiswyr ifanc sy'n barod i sefyll yn enw Plaid Cymru yn yr etholiadau Cyngor Sir ar Fai 1af. Bydd gan y Blaid 7 ymgeisydd o dan 30 mlwydd oed yn brwydro i ennill sedd yn yr etholiadau. Dywedodd y Cyngh. Peter Hughes Griffiths: "Mae'n fendigedig fod gennym cymaint o ymgeiswyr ifanc yn yr etholiadau mis Mai. Y gwyn bob amser yw nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac mae gwell ganddynt yw pleidleisio dros enillydd X Factor na phleidleisio i ethol gwleidydd. Mae'n bwysig ein bod yn cynnwys pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a'i wneud yn berthnasol i'w bywydau. Credaf fod y Blaid yn llwyddo i wneud hyn gan fod gennym lawer o bobl ifanc brwd yn ymroi i waith y Blaid." Ychwanegodd Arwel Lloyd, Ymgeisydd 27 oed yn Ne Tref Caerfyrddin: "Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i sefyll yn yr etholiadau hyn. Oed cyfartaledd cynghorwyr yw 61 a dyna pham mae'n bwysig fod pobl ifanc yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth er mwyn i'n barn ni gael ei fynegi pan gaiff penderfyniadau eu gwneud sy'n effeithio bywyd pob dydd pobl. Rwyf i o'r farn fod pobl ifanc yn llai apathetig a bod ganddynt fwy o ddiddordeb mewn materion cyhoeddus nad sy'n cael ei gydnabod yn gyffredinol." Yr ymgeiswyr dan 30 oed yw: |
|
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr
- Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors |
ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA