|
Newyddion |
Maniffesto Plaid Cymru - Pwyntiau o ddiddordeb i bobl Llanelli – 08/04/08Yr wythnos hon fe lansiodd Plaid Cymru eu maniffesto dros Sir Gaerfyrddin ar gyfer yr Etholiadau Cyngor Sir ar Fai 1af, “Symud Sir Gâr Ymlaen”. O ddiddordeb arbennig i bobl Llanelli fydd yr ymrwymiad i geisio lliniaru’r effaith ar ganol y trefi o’r parciau adwerthol tu fas y trefi, i ehangu’r nifer o dai fforddiadwy i bobl leol, i hyrwyddo ac ehangu cynlluniau ail-gylchu gwastraff yn ogystal a chymunedau mwy diogel.
Rhaid i’r Cyngor hefyd ystyried darparu parcio am ddim saith diwrnod yr wythnos ynghanol y dref a gwneud cais i Lywodraeth y Cynulliad am ostyngiad treth ar gyfer masnachwyr yng nghanol y dref. Bydd Plaid Cymru yn mynnu fod sefydlu “think tank” o arbenigwyr i greu syniadau newydd a chyffrous i adfywio canol y dref.
Tai fforddiadwy. Wrth lansio’r maniffesto esboniodd Peter Hughes Griffiths, arweinydd y Blaid ar Gyngor Sir Gaerfyrddin, sut y mae’r drefn cynllunio presennol yn mygu datblygiad tai fforddiadwy, ond drwy’r cytundeb “Cymru’n Un” mae’r Blaid yn rhoi’r offer angenrheidiol i’r Awdurdodau Lleol i fynd i’r afael â’r argyfwng tai fforddiadwy yn eu cymunedau drwy gyflwyno rheolau cynllunio newydd. "Byddai Cyngor Caerfyrddin o dan reolaeth Plaid Cymru yn cefnogi datblygiad Ymddiriedolaethau Tir Sirol fel y gwnânt yng Nghyngor Sir Gwynedd o dan reolaeth y Blaid, ac hefyd rhyddhau mwy o dir cyhoeddus ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy. Byddem hefyd yn cadw’r stoc o dai cyngor ac yn ymchwilio i ffyrdd o gynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer tai cymdeithasol," meddai. Ailgylchu. Cyfeiria’r Maniffesto at yr angen i ehangu’r cynlluniau ailgylchu gwastraff ac i sicrhau fod ailgylchu yn hawdd ac ar gael i bob dinesydd. Byddai’r Blaid hefyd yn cael gwared yn raddol o bob bwlb gwynias a ddefnyddir gan y Cyngor erbyn 2012. Cymunedau Diogelach. Cred y Blaid mai datblygu gwasanaethau ieuenctid a mwy o gyfleoedd gwaith yw’r ffordd fwyaf effeithiol o hyrwyddo cymunedau mwy diogel. Cefnogi a diogelu safle gweithwyr ieuenctid cymunedol i’w galluogi i ddatblygu prosiectau ieuenctid mwy tymor hir o fewn rhwydwaith o glybiau yw’r ffordd ymlaen yn ogystal a darparu amrywiaeth o gyfleustodau deniadol ar gyfer pobl ifanc. "Mae’r holl strwythur democrataidd yn y Cyngor Sir yn annerbyniol," meddai arweinydd y Blaid. "Mae llawer gormod o rym gan y Cabinet a’r swyddogion. Rhaid i ni gymryd camau i newid a chreu system decach." Mae penawdau eraill yn y Maniffesto “Symud Sir Gâr Ymlaen” yn cynnwys - Adfywio Cymunedau a Datblygu Economaidd, Cynllunio, Cymunedau Diogelach, Gwasanaethau Ieuenctid, Hamdden a Sir Iachach a’r Iaith a’n Diwylliant Cymraeg. Mae’r maniffesto “Symud Sir Gâr Ymlaen” ar gael arlein yma... |
|
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr
- Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors |
ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA