|
Newyddion |
Plaid Cymru i ennill rheolaeth ar Gyngor Sir Gâr – 05/04/08Mae gan Blaid Cymru 60 o ymgeiswyr yn Sir Gaerfyrddin yn yr etholiadau lleol ar Fai 1af ac maent yn anelu at gymryd rheolaeth o'r Cyngor. Ni all yr ymgeiswyr annibynnol ennill mwy na 45 o seddau, a 43 sedd yn unig y mae Llafur yn ymladd allan o 74 posibl ar y Cyngor. Dywedodd arweinydd grwp y Blaid : "Mae gennym ni fwy o ymgeiswyr nac erioed, ac mae 4 ohonynt yn gwbl ddiogel (3 yn ddi-wrthwynebiad ac un gwrthwynebydd yn unig mewn ward gyda 2 sedd yn Saron), does dim un sedd ddiogel gan Lafur ac mae dwy gan ymgeiswyr annibynnol." "Er mwyn rheoli'r Cyngor mae angen i ni ennill 37 sedd. Dengys y canlyniadau gwych yn nwyrain Caerfyrddin, Gorllewin Caerfyrddin a Llanelli yn yr etholiadau ar gyfer y Cynulliad cenedlaethol fod yr etholwyr yn ein cefnogi, ac os fyddan nhw'n pleidleisio fel y gwnaethant ym mis Mai y llynedd byddwn yn rheoli'r cyngor ac yn gallu symud Sir Gaerfyrddin ymlaen drwy raglen radical ein maniffesto." |
|
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr
- Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors |
ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA