Plaid Cymru - Cynghorwyr Sir Caerfyrddin
Newyddion
English

Arian ar gyfer CffI a’r Urdd – 31/03/08

Byddai Cyngor Sir Caerfyrddin o dan reolaeth y Blaid yn darparu cyllid ar gyfer Mudiad y Ffermwyr Ifanc a’r Urdd i’w galluogi i gyflogi Swyddog Datblygu llawn amser yr un i gryfhau cyfleoedd i bobl ifanc drwy’r sir benbaladr.

Tra’n siarad yng nghynhadledd wanwyn y Blaid yng Nghasnewydd y penwythnos diwethaf canmolodd arweinydd y Blaid ar Gyngor Sir Caerfyrddin, Peter Hughes Griffiths, y ddau fudiad am lanw bwlch yng ngweithgareddau pobl ifanc y dylid fod yn cael ei lanw gan y Cyngor Sir.

“Mae’r ddau fudiad hyn drwy eu clybiau lleol ac arweinwyr gwirfoddol yn darparu gwasanaeth mor werthfawr i’w cymunedau a gwaith ieuenctid. Dylai Cyngor Sir Caerfyrddin ddarparu’r cyllid ar eu cyfer i gyflogi swyddogion datblygu er mwyn estyn eu gwaith gyda phobl ifanc hyd yn oed ymhellach,” meddai’r Cyngh. Griffiths.

Amlinellodd hefyd sut y mae Maniffesto’r Blaid ar gyfer Etholiadau’r Cynghorau Sir ar Fai 1af yn cynnwys yr angen am “Adolygiad dwys o Ddarpariaeth a Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor Sir.”

“Rydym am weithredu strategaeth newydd am rwydwaith o Ganolfannau Gweithgareddau Ieuenctid mewn adaeiladau addas o fewn cymunedau drwy Sir Gâr,” ychwanegodd.
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr - Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA