Plaid Cymru - Cynghorwyr Sir Caerfyrddin
Newyddion
English

Llafur ac Annibynnol yn uno? – 02/03/08

Mae angen i Arweinydd yr Annibynwyr, y Cyngh. Meryl Gravell a’r Arweinydd Llafur, y Cyngh. Martin Morris i esbonio rhywbeth. Yn ôl llythyr gan P Richard Rosser yn y Llanelli Star mae gan Llafur a’r Annibynwyr “ddealltwriaeth gref i rannu grym unwaith eto yn yr etholiadau lleol ym mis Mai.” Ymddengys hefyd fod y ddau arweinydd wedi cytuno na fydd o leiaf rhai ymgeiswyr o’r grwpiau yn gwrthwynebu ei gilydd. Mae sîon ar led. Ymddengys na fydd gan Llafur ymgeisydd yn erbyn y Cyngh. Meryl Gravell.

Deallwn pam fod gwahanol grwpiau yn dod at ei gilydd i ffurfio clymblaid ar ôl etholiad os nad oes gan unrhyw grwp fwyafrif clir, ond mae gwneud hynny cyn etholiad yn anghyffredin iawn. Oni ddylai’r etholwyr gael cymaint o ddewis a phosibl er mwyn sicrhau gwir ddemocratiaeth?

A yw hyn yn golygu y bydd gan Llafur a’r Annibynwyr yr un maniffesto? Bu Llafur yn unbeniaethu yn y cymoedd dros y blynyddoedd gan roi nemor ddim dewis democrataidd i’r etholwyr, (heblaw Plaid Cymru) a does dim dwywaith mai dyma yw eu bwriad yn Sir Gâr drwy wadu i’r etholwyr y cyfle i gael dewis. Dyma chwalu’r myth fod ymgeisydd Annibynnol mewn gwirionedd yn annibynnol; mae’n amlwg nad yw hyn yn wir a chaiff yr etholwyr ffurfio eu casgliadau eu hunain yngl?n â hyn.

Dros y 4 mlynedd ddiwethaf bu Plaid Cymru, gyda 16 yn unig o gynghorwyr, yn wrthblaid effeithiol gan lwyddo i newid meddwl y weinyddiaeth ar nifer o achlysuron (Annedd/ Canol Tref Caerfyrddin/ Talu trethi yn y Swyddfeydd Post). Nôd y Blaid yw adfer democratiaeth yng nghyngor Sir Caerfyrddin. Bydd Plaid Cymru yn rhoi dewis i’r etholwyr fis Mai gyda rhaglen gyffrous ac adeiladol a gwahoddwn ymgeiswyr Llafur ac Annibynnol sy’n anghyffyrddus gyda’r prinder democratiaeth yn Sir Gâr i edrych ar ein rhaglen ac ystyried ymuno gyda ni.
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr - Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA