Plaid Cymru - Cynghorwyr Sir Caerfyrddin
Newyddion
English

Rhwystro’r ymdrech i Leihau’r Cynnydd yn y Dreth  -  26/02/08

Gwrthodwyd yr ymdrech i leihau’r cynnydd yn y dreth yng nghyfarfod llawn y Cyngor yr wythnos hon. Gosodwyd cynnydd o 4.52% ar dreth Sir Gaerfyrddin gan y Grwp Llafur/Annibynnol ar waethaf cynnig gan y Cyngh. Peter Hughes Griffiths, arweinydd grwp y Blaid, i osod y cynnydd yn y dreth o dan 4%.

Meddai’r Cyngh. Griffiths, ar ôl y cyfarfod o’r Cyngor Sir heddiw (26/02/08) :

"Dylai’r Cyngor fod wedi rhagweld y byddai’r gyllideb yn un tynn. Dywedodd y Llywodraeth yn Llundain hyn ers sbel a dylai’r Cyngor fod wedi cynllunio ar ei gyfer. Nid yw’n iawn fod y Cyngor yn ceisio beio eraill."

"Ni fydd y cyhoedd yn deall pam fod y dreth wedi’i osod yn uwch na chwyddiant ar y naill law, tra ar y llaw arall mae’n bosibl cyllido llawer o brosiectau mawr. Mae’n rhaid i’r Cyngor flaenoriaethu’n well, neu fe fydd gwasanaethau pwysig yn dioddef hyd yn oed yn fwy nag yn y gorffennol. Os bydd cynnydd uwchben chwyddiant bydd gan y cyhoedd yr hawl i ddisgwyl gwell gwasanaethau."
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr - Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA