Plaid Cymru - Cynghorwyr Sir Caerfyrddin
Newyddion
English

Galw am ymddiswyddiad  Aelod o’r Bwrdd Addysg  -  08/02/08

Ymosodwyd yn chwyrn ar wrthwynebwyr cau ysgolion gan y Cyngh. Ieuan Jones (Annibynnol) yr wythnos hon, Yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor sy’n gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau plant. Wrth siarad yng nghyfarfod llawn y Cyngor dywedodd y Cyngh. Jones, Llandeilo:

"Mae’n gywilyddus fod yna bobl mas fan’na sydd mor dwp, ac yn siarad rwtsh."

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Meryl Gravell :

"Mae rhai aelodau (o’r Cyngor) yn dangos gwendid ac yn barod i wrando ar bobl mas fan’na."

Cododd y Cyngh. Eirwyn Williams, Plaid, gan ddweud ei fod yn falch o fod yn aelod oedd yn barod i wrando ar yr etholwyr. Wedi’r cyfarfod, dywedodd y Cyngh. Williams:

"Mae hyn yn mynd at graidd y ffordd y rheolwyd Sir Gaerfyrddin dros y bedair mlynedd ddiwethaf. Dyw democratiaeth yn cyfri dim. Agwedd 'Ni sydd yn gwybod orau' ydyw bob tro heb ddim parch at wahanol safbwyntiau. Dylai’r Cynghorydd Ieuan Jones o bawb, ac yntau’n gyfrifol am addysg, annog parch at wahanol farnau. Mae’n ddiwrnod trist os na fydd addysg yn dysgu ein plant i weld bob ochr i ddadl, a goddefgarwch a pharch tuag at y rhai sy’n anghytuno gyda nhw."

"Galwaf ar Ieuan Jones i ymddiheurio yn llawn i’r etholaeth yn gyffredinol ac i Ffred Ffransis gan iddo ei enwi, yn arbennig. Dyna’r lleiaf y dylai wneud."

Ychwanegodd Arweinydd y Blaid ar y Cyngor Sir, Peter Hughes Griffiths :

"Dro ar ôl tro methodd y Grwpiau Llafur ac Annibynnol ar y Cyngor a gwrando ar yr etholwyr. Caiff penderfyniadau eu gwneud gan nifer bach o unigolion ac uchel- swyddogion yr adrannau."

"Bydd y Blaid yn gweithio i sicrhau fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn fwy agored ac atebol i’r cyhoedd. Bydd Cyngor a gaiff ei reoli gan Blaid Cymru’n cael ei weinyddu mewn ffordd amhleidiol, gan gynnwys dulliau scriwtineiddio cryf fel nad yw’r grym gwneud penderfyniadau wedi’i grynhoi yn nwylo’r Bwrdd Gweithredol ac uwch-swyddogion Llywodraeth Leol. Byddwn yn cefnogi’r ymgyrch dros gyllido cyfranogol yn ein hawdurdodau Lleol."
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr - Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA