|
Newyddion |
Panig Cyllideb y Cyngor - 26/11/07Mae Cynghorwyr y Blaid wedi beirniadu’r ffordd y mae’r weinyddiaeth Llafur/Annibynnol wedi delio gydag arian y Cyngor. Dywed swyddogion y Cyngor fod adrannau’r Cyngor eleni yn debygol o or-wario o bron £1.9m. Er mwyn ceisio adfer y sefyllfa, byddant yn defnyddio’r arian wrth gefn. Hefyd, bydd y cyllid canolog wrth gefn yn debyg o ddisgyn i 2.92% erbyn Mawrth 31ain. Mae hyn yn is na’r “prudent level” a gytunwyd gan y Cyngor ac a dderbyniwyd gan audit allanol. Nawr mae’r Cyngor yn trafod y codiad trethi am y flwyddyn nesaf (7.12%) ac ar waethaf derbyn setliad uwch na chwyddiant oddiwrth y Llywodraeth* maent yn bygwth toriadau a chodiadau trethi mawr. Meddai’r Cynghorydd Plaid Neil Baker : “Mae’r arweinwyr yn Neuadd y Sir yn ceisio beio unrhywun ond nhw eu hunain am y codiad mawr mewn trethi sy’n debygol y flwyddyn nesaf. Maent yn ceisio camarwain er mwyn cuddio’r ffaith eu bod wedi derbyn arian sy’n uwch na graddfa chwyddiant ac eto am roi ergyd i’r trethdalwyr.” “Dim ond yr wythnos ddiwethaf daeth y Cyngor o hyd i filiynau i gyllido stadiwm newydd yn Llanelli. Pan heriwyd hwy drwy ofyn a fyddai hyn yn effeithio ar wasanaethau angenrheidiol gwnaethant wadu’n bendant. Nawr dyma ni’n clywed cwyno oddiwrth Neuadd y Sir fod yn rhaid torri ar wasanaethau tra bod digon o arian ar gael ar gyfer spin a phrosiectau arbennig.” “Mae’n hen bryd i arweinyddiaeth y pleidiau Llafur/Annibynnol stopio esgus eu bod yn gofidio a chychwyn gweithio o ddifri.” * Gvt inflation Consumer Price index in October was 2.1% (ONS) |
|
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr
- Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors |
ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA