Plaid Cymru - Cynghorwyr Sir Caerfyrddin
Newyddion
English

Torriad Anferth yng Nghyllideb Dwy Ysgol - 15/10/07

Mae dwy ysgol gynradd yn Sir Gâr yn gwynebu torriadau anferth yn eu cyllidebau. Mae'r Glymblaid Annibynnol/Llafur wedi gwrthod  ailystyried dull ariannu dwy ysgol ffederal yn y Sir sef Ysgol y Fro (Llangyndeyrn. Llansaint ac Idole) ac Ysgol Carreg Hirion ( Cwmann, Ffald y Brenin a Ffarmers. Yn achos Ysgol y Fro mae'n golygu torriad bron at hanner -  o £300.000 yn 2007 i £163.334  yn 2010 ac o £429,299  i  £341.056 yn achos  Ysgol Carreg Hirfaen.

Galwodd Dirprwy arweinydd Plaid Cymru  Peter Hughes Griffiths yng nghyfarfod llawn y Cyngor Sir ar y 12fed o Fedi  ar i'r swyddogion Addysg  ac Aelod o'r Bwrdd Gweothredol i gyfarfod â llywodraethwyr y ddwy ysgol i sicrhau na fyddai'r un o'r ddwy ysgol yn cael llai na'u cylludeb presennol dan y drefn ariannu newydd i holl ysgolion cynradd y Sir. Dywedodd y Cynghorydd Hughes Griffiths:

"Roeddwn eisiau sicrhau y byddai'r ddwy ysgol ffederal yn cael eu hariannu o leiaf cymaint ag yr oeddent yng nghynt ac yr oeddwn dan yr argraff yng nghyfrafod llawn y Cyngor ar y 12fed o Fedi y byddai yna drafodaethau rhwng yr Awdurdod a'r ysgolion. Mae'n amlwg erbyn hyn bod y Bwrdd Gweithredol wedi gwneud ei benderfyniad ar y 3ydd o Fedi a'r unig drafodaethau fydd ynglyn â sut mae gweithredu'r polisi a sut i redeg yr ysgolion ar gyllideb llai."

"Mae'n amlwg bod y Cyngor wedi rhoi'r gorau i unrhyw fwriad  i ffederaleiddio ysgolion.yn Sir Gâr.  Mae'n gwbl anfoesol i'r Annibynwyr a Llafur i leihau cyllideb ysgol yn y ffordd hyn. Fyddai'r un cwmni masnachol yn gallu goroesi gostyngiad tebyg yn ei incwm. Sut yn y byd mae'r Cyfarwyddwr Addysg yn disgwyl i'r ysgolion or-oesi mewn amgylchiadau felly?"

© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr - Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA