|
Newyddion |
Peidiwch anghofio gwneud y pethau bychain - 02/10/07Mae Cynghorwyr Plaid Cymru yn gofidio am fethiant Cyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu’r gwasanaethau dydd i ddydd. Dro ar ol tro cant yr ymateb nad yw’r cyllid ar gael i ddelio â’r problemau. Dywed y Cyngh. Peter Hughes Griffiths : "Ymddengys y cyngor yn dda iawn wrth ymdrin â phrosiectau drud sy’n cael llawer o sylw, ond pan ystyrir cwynion dydd i ddydd y trigolion mae’n anodd cyflawni unrhywbeth. Mae gennym broblemau gyda ysbwriel, cadw llwybrau’n agored, tyllau yn y ffyrdd – pethau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar bobl o ddydd i ddydd." "Mae’r cynghorwyr a’r staff yn rhwystredig oherwydd y diffyg arian ar gyfer problemau cyffredin. Ma’n hen bryd i’r Cyngor i ymarfer geiriau ein nawdd sant Dewi, Gwnewch y Pethau Bychain sydd heb cael eu gwneud hyd yn hyn." "Ymddengys fod y ffyrdd bach cefn yn cael eu glanhau’n unig wrth i drigolion ofyn. Dyw hyn ddim yn ddigon da yn yr 21 G." Dywed y Cyngh. Joy Williams, sy’n pryderi am ddiffyg arian ar gyfer cysgodfannau bysus : "Ers blynyddoedd bum yn ceisio cael cysgodfan bws yn fy ward. Ar y naill law ceisiwn annog y cyhoedd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, felly disgwyliem i hyn gael blaenoriaeth. Nid yw’n ddigon da yn y 21G i’r hen a’r gwan orfod sefyll yng ngwynt a glaw y gaeaf." Ychwanegodd y Cyngh. Tyssul Evans: "Teimlaf yn flin dros swyddogion yr adran dai yn arbennig gan nad yw’r cyllid ganddynt hyd yn oed i wneud y tasgau lleiaf megis glanhau’r llwybrau troed ar ystadau a thorri’r tyfiant ar dir y tai ymylol. Daeth glanhau’r draeniau ar y ffyrdd yn dasg anferth." |
|
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr
- Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors |
ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA