|
Newyddion |
Sir Gaerfyrddin ar darged i gael statws Masnach Deg - 08/08/07Penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi’r symudiad i gael statws sir Masnach Deg. Gan ddiolch i’r Cyngor am eu cefnogaeth, dywedodd y Cyngh. Fioled Jones, aelod o’r pwyllgor llywio, yr wythnos hon: "Dyma’r cam cyntaf yn unig, ond nawr fod y Cyngor wedi cytuno i gefnogi’r symudiad, gallwn barhau’n hyderus i wneud y gwaith caled angenrheidiol." "Penderfynodd y Cyngor i weini te a choffi Masnach Deg yn unig yn ei gyfarfodydd ac yn ei swyddfeydd a chantinau, ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy’r sir. Mae angen i ysgolion hefyd fod yn ymwybodol ac i hyrwyddo Masnach Deg." "Y nod yw cael o leiaf 35 siop i gefnogi’r cynllun yn ogystal ag o leiaf 17 restaurant a gwesty. Cynhwysa’r cynllun nwyddau megis siocled,mel, siwgwr, bananas, suddoedd a dillad yn ogystal â the a choffi." "Mae holl nwyddau Masnach Deg yn dwyn y logo Masnach Deg. Mae angen addysg gyhoeddus ac ymgyrch hyrwyddo enfawr. Apeliwn felly am gefnogaeth gyhoeddus i brynu nwyddau Masnach Deg ac hefyd annog gwerthwyr i’w stocio. Dymuna’r Pwyllgor Llywio yn arbennig gael gwirfoddolwyr i helpu hyrwyddo Masnach Deg yn Llanelli." |
|
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr
- Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors |
ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA