Plaid Cymru - Cynghorwyr Sir Caerfyrddin
Newyddion
English

Plaid yn galw ar y Cyngor Sir i fod o ddifri ynlyn â thai fforddiadwy - 04/07/07

Dywedodd y Cyngh. John Edwards wrth annerch grwp sir y Blaid yr wythnos hon:

“Wrth ymdrin â thai fforddiadwy rydym wedi bod yn chwarae ar yr ymylon hyd yn hyn tra bod ein cymunedau’n gwanhau a’n pobl ifanc yn dioddef. Rhaid i ni ddilyn esiampl Cyngor Sir Gwynedd a chael gwell canllawiau yn ychwanegol at Gynllun Strwythur y Sir. Bydd hyn yn rhoi mwy o fanylion  ar faterion penodol nac sydd yn bosibl neu’n addas mewn dogfennau statudol.

“Mae cyfartaledd incwm isel a chodiadau mawr ym mhrisiau tai’n golygu na all rhan fawr o’n poblogaeth fforddio brynu tai yn lleol. Mae angen i ni ddatblygu polisi cryf a rhaglen gadarnhaol er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn ein cymunedau. Mae hefyd yn bwysig fod y math o dai a adeiladir yn adlewyrchu’r angen yn lleol, ac nid wedi ei seilio ar gymhelliad y datblygwr i wneud yr elw mwyaf posibl.

“Dylem sicrhau trwy gytundebau cyfreithiol fod buddion tai fforddiadwy ar gael ar gyfer trigolion sydd wedi byw neu weithio o fewn y sir neu sir gymdogol, am bum mlynedd neu fwy a bod eu hincwm yn rhy isel i alluogi iddynt brynu neu rhentu ar y farchnad agored.”

Ychwanegodd y Cyngh. Peter Hughes Griffiths:

“Mae angen i ni gynnwys y cymunedau lleol llawer mwy yn ein hasesiadau o’r angen am dai a’r datblygiadau tai sy’n dilyn. Rhaid i ni sicrhau hefyd fod y tai yn parhau yn fforddiadwy i brynwyr a deiliaid  dilynol, lle maent wedi eu darparu.

Dylai unrhyw dir a berchnogir gan y sir ac sydd yn dod yn rhydd o’u ddefnydd presennol gael ei ystyried yn ffafriol fel tir ar gyfer datblygu tai fforddiadwy.”

Dywedodd arweinydd y grwp, Neil Baker:

“Bydd grwp Plaid Cymru yn pwyso am gyhoeddi Canllawiau Cynllunio Atodol ar dai fforddiadwy a fydd yn darparu canllawiau manwl ar gyfer defnyddwyr y system gynllunio ar sut i weithredu polisiau ynglyn â thai fforddiadwy. Byddant hefyd yn rhoi sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau ynglyn â’r gofynion ar dai fforddiadwy fel rhan o ddatblygiadau preswyl.”
© Cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr - Carmarthenshire Plaid Cymru Councillors
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA